Alun Davies AC
 Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
 Llywodraeth Cymru

21 Mawrth 2018

 

Annwyl Alun

 

Mae gan ein Pwyllgor ymchwiliad parhaus sy'n edrych ar ddiogelwch tân yng Nghymru, yn dilyn y tân dychrynllyd yn Nhŵr Grenfell. Cawsom dystiolaeth gan randdeiliaid allweddol ym mis Gorffennaf a chan Lywodraeth Cymru ym mis Medi. Rwyf bellach yn ysgrifennu i geisio diweddariad ar y materion sy'n codi o'n gwaith.

 

Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân

 

Mewn gohebiaeth dyddiedig 1 Tachwedd, ymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i roi inni ddatganiad sefyllfa y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân, argymhellion ac ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion hyn. Pryd y byddwch yn gallu rhannu'r rhain gyda ni?  Rydym hefyd yn ymwybodol y dylai'r Grŵp fod wedi'i adolygu ym mis Ionawr 2018, a allwch ein diweddaru ar p'un a fydd y grŵp yn parhau a beth y byddwch yn disgwyl i'r Grŵp ei wneud?

 

Adeiladau'r sector preifat

 

Rydym yn ymwybodol o'r sylw diweddar yn y wasg sy'n awgrymu bod nifer o adeiladau preifat yn ne Cymru gyda chladin wedi methu profion diogelwch. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod adeiladau gyda chladin sydd wedi methu profion diogelwch yn cymryd y camau adfer angenrheidiol?

 

Adolygiad Annibynnol o Reoliadau Adeiladu a Diogelwch Tân

 

Byddem yn gwerthfawrogi rhagor o wybodaeth am sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â'r Adolygiad Annibynnol, a sut y bydd yn parhau i wneud hynny. Yn benodol, a ydych chi neu'ch swyddogion wedi cwrdd â Chadeirydd yr adolygiad, ac a ydych wedi gwneud sylwadau ar yr adroddiad interim?

 

Nodwn fod Pwyllgor Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Tŷ'r Cyffredin wedi bod mewn gohebiaeth â Chadeirydd yr Adolygiad i fynegi ei anfodlonrwydd ar elfennau o'r adolygiad interim. Un mater penodol o bryder oedd nad oedd yr Adolygiad yn cwmpasu'r mater o ran profi offer trydanol domestig.  O gofio mai offer trydanol diffygiol oedd wedi dechrau'r tân yn Nhŵr Grenfell, rydym yr un mor bryderus ynghylch hepgor y mater hwn o'r cylch gorchwyl.  A yw Llywodraeth Cymru wedi sôn wrth Lywodraeth y DU neu Adolygiad Hackitt am y mater hwn?

Rydym hefyd yn ymwybodol bod y Pwyllgor Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi parhau i fynegi pryderon ynghylch y diffyg eglurder o ran a ellir defnyddio deunyddiau llosgadwy mewn cladin tyrau o fflatiau. Rydym yn nodi'r pryderon hyn ac yn adleisio'r angen am fwy o eglurder ynghylch y mater hwn.

Tyrau o fflatiau yng Nghaerdydd

Yn olaf, rydym yn nodi'r newyddion diweddar bod chwe thŵr o fflatiau preswyl yng Nghaerdydd yn defnyddio cladin sydd wedi methu'r safonau llosgi presennol. Rydym yn gwybod pa mor bryderus y bydd hyn i drigolion, ac rydym yn croesawu'r wardeiniaid tân 24 awr sydd wedi'u cyflwyno gan Gyngor Caerdydd. A allwch amlinellu pa gefnogaeth rydych yn ei ddarparu i Gyngor Caerdydd yn dilyn y profion diogelwch hyn? 

Rwyf hefyd yn anfon copi o'r llythyr hwn at y Pwyllgor Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol er gwybodaeth.

 

Edrychaf ymlaen at eich ymateb.

 

 

 

Yn gywir

John Griffiths AC
Cadeirydd

Copi at: Clive Betts AS, Cadeirydd y Pwyllgor Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu'n Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.